{"id":1402,"date":"2024-08-12T14:01:29","date_gmt":"2024-08-12T13:01:29","guid":{"rendered":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/?p=1402"},"modified":"2024-08-12T14:01:30","modified_gmt":"2024-08-12T13:01:30","slug":"ysbyty-tregaron","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/ysbyty-tregaron\/","title":{"rendered":"Ysbyty Tregaron"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>Dweud eich dweud am welyau yn Ysbyty Cymunedol Tregaron<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd pobl i rannu eu barn am effaith cael gwared ar y naw gwely claf mewnol yn Ysbyty Cymunedol Tregaron a darparu gwasanaethau yn eu lle ar gyfer mwy o bobl yn y gymuned yng Ngheredigion.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cyfnod hwn o ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd yn adeiladu ar y sgyrsiau y mae\u2019r Bwrdd Iechyd wedi\u2019u cynnal gyda\u2019n cymuned ers 2014 pan rannwyd y model gofal newydd fel rhan o brosiect Cylch Caron.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhwng 1 Awst a 29 Awst 2024, gallwch roi adborth am y newidiadau a sut y gallai&#8217;r rhain effeithio arnoch.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y cynnig ar gyfer model gofal newydd, sy\u2019n rhan o brosiect ehangach Cylch Caron ac yn unol \u00e2 gweledigaeth hirdymor y Bwrdd Iechyd ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru iachach, yn gweld symud gofal cleifion mewnol o\u2019r ysbyty i gartrefi pobl. Wedi\u2019i alluogi trwy fodel cymorth gwahanol, bydd staff yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd, yn canolbwyntio ar gadw pobl yn iach gartref, a gyda mwy ohonynt ar gael i helpu pobl yn y gymuned.<\/p>\n\n\n\n<p>Nod y Bwrdd Iechyd yw darparu gwasanaeth mwy diogel a chynaliadwy ar draws Ceredigion, tra\u2019n gwella\u2019r gofal a\u2019r ddarpariaeth i gleifion. Bydd yn gwella cymorth yn y gymuned a bydd hefyd yn helpu rhag rhoi pobl mewn gwelyau ysbyty ac mewn perygl o ddirywio pan fyddant yn feddygol ffit i fod adref. Bydd hyn yn cynnwys darparu cymorth lliniarol yn y cartref a gwasanaethau mwy ymatebol i alluogi pobl i aros adref a hynny\u2019n ddiogel.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel rhan o brosiect Cylch Caron, bydd canolfan adnoddau integredig yn cael ei datblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru, gan ddwyn ynghyd ystod o wasanaethau gofal, iechyd a thai ar gyfer y dyfodol mewn canolfan ganolog ar gyfer Tregaron a&#8217;r ardaloedd gwledig cyfagos. Wrth i\u2019r gwaith o ddatblygu cynllun Cylch Caron fynd rhagddo, mae&#8217;r Bwrdd Iechyd yn ystyried ei fodel gofal presennol ar gyfer cleifion mewnol yn Ysbyty Tregaron.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sirol Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: \u201cEr gwaethaf ymdrechion parhaus i recriwtio i swyddi, mae lefel bresennol ein staff yn Ysbyty Tregaron yn annigonol, ac mae ein rot\u00e2u staffio yn fregus. Mae staff wedi lleisio pa mor heriol yw cefnogi cleifion mewnol drwy ein model gofal presennol yn Ysbyty Tregaron.<\/p>\n\n\n\n<p>Trwy newid y model gofal fel y mae&#8217;n cael ei ddarparu ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd yr un staff yn gallu gofalu am hyd at ddeugain o gleifion yn eu cartrefi eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cEr mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r materion hyn, rydym yn cynnig symud ein staff o fod yn yr ysbyty i fod yn y gymuned. Byddai hyn yn golygu disodli\u2019r naw gwely sydd yn Ysbyty Tregaron ar hyn o bryd gyda gwasanaethau a ddarperir yn y gymuned, gan ein galluogi i gefnogi mwy o gleifion yn eu cartrefi a darparu ein model gofal cymunedol yn gynt.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae cleifion wedi rhannu\u2019n gyson y byddai\u2019n well ganddyn nhw fod gartref, neu\u2019n agosach at adref, ac mae hyn yn tueddu i gefnogi eu hadferiad. Bydd gwneud y newid hwn yn golygu y gallwn ofalu am fwy o bobl a\u2019u cefnogi, mewn ffordd sy\u2019n briodol i\u2019w hanghenion, ac o fewn eu cymuned leol.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae Ysbyty Tregaron wedi bod yn rhan o\u2019n cymuned leol ers blynyddoedd lawer. Wrth i ni ddatblygu gweledigaeth ehangach Cylch Caron, bydd Ysbyty Tregaron yn parhau i fod yn ganolfan ar gyfer ein staff cymunedol ac yn gyfleuster ar gyfer gwasanaethau cleifion allanol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch rannu eich barn rhwng 1 Awst a 29 Awst 2024 yn y ffyrdd canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Digwyddiad galw heibio \u2013 unrhyw bryd rhwng 2pm a 7pm ddydd Mercher 21 Awst 2024 yn Neuadd Goffa Tregaron, Y Sgw\u00e2r, Tregaron, Ceredigion SY25 6JL<\/li>\n\n\n\n<li>Digwyddiad rhithiol ar-lein (dros Zoom) &#8211; 22 Awst 2024 am 6pm (manylion ar gael ar ein gwefan Dweud Eich Dweud isod)<\/li>\n\n\n\n<li>Gwefan Dweud Eich Dweud sydd i\u2019w gweld yma<br><a href=\"https:\/\/www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk\/\">Dweud eich Dweud BIP Hywel Dda (cymru.nhs.uk)<\/a><\/li>\n\n\n\n<li>Rhif ff\u00f4n: 0300 303 8322 (a dewis opsiwn 5 am ymholiadau cyffredinol)<\/li>\n\n\n\n<li>Ebost: <a href=\"mailto:hyweldda.engagement@wales.nhs.uk\">hyweldda.engagement@wales.nhs.uk<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd adborth o\u2019r ymgysylltu yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Iechyd yn ei gyfarfod ym mis Medi 2024 ochr yn ochr \u00e2 gwybodaeth bwysig arall, megis gofynion ansawdd a diogelwch, heriau staffio, a goblygiadau ariannol ac adnoddau cyn penderfynu ar y camau nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda<\/p>\n\n\n\n<p>&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8212;&#8211;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Share your views on Tregaron Community Hospital beds<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Hywel Dda University Health Board is inviting people to share their views about the impact of removing the nine inpatient beds at Tregaron Community Hospital and replacing them with services for more people provided in the community in Ceredigion.<\/p>\n\n\n\n<p>This period of public engagement builds on the conversations that the Health Board has held with our community since 2014 when the new model of care was shared as part of the Cylch Caron project.<\/p>\n\n\n\n<p>From 1 August to 29 August 2024, people will be able to provide feedback about the changes and how these might affect them.<\/p>\n\n\n\n<p>The proposal for a new model of care, which is part of the broader Cylch Caron project and in line with the Health Board\u2019s long term vision for a healthier mid and west Wales, will see the move of inpatient care from the hospital to people\u2019s own homes.&nbsp; Enabled through a different model of support, this will see staff working in different ways, focused on keeping people well at home, and with more available to help people in the community.<\/p>\n\n\n\n<p>The Health Board\u2019s aim is to provide a safer, more sustainable service across Ceredigion, while improving patient care and delivery. It will enhance community based support and will also help avoid people being in hospital beds and at risk of deteriorating when they are medically fit to be in their home environment. This will include the provision of palliative support at home and more responsive services to enable people to stay safely in their home.<\/p>\n\n\n\n<p>As part of the Cylch Caron project, an integrated resource centre will be developed in partnership between Ceredigion County Council, the Health Board and the Welsh Government, bringing together a range of care, health and housing services for the future in a central hub for Tregaron and its surrounding rural areas. While the Cylch Caron scheme is developed, the Health Board is considering its current model of care for inpatients at Tregaron Hospital.<\/p>\n\n\n\n<p>Peter Skitt, County Director for Ceredigion, Hywel Dda University Health Board said: \u201cDespite continued efforts to recruit to positions, our current level of staff at Tregaron Hospital is insufficient, and our staffing rotas are fragile. Staff have voiced how challenging it is to support inpatients through our current model of care at Tregaron Hospital.<\/p>\n\n\n\n<p>It is anticipated that by changing the model of care as it is currently provided, the same staff will be able to look after up to forty patients in their own homes.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cTo address these issues, we propose moving our staff from being hospital based to being community based. This would mean replacing the nine beds currently at Tregaron Hospital with services provided in the community, enabling us to support more patients in their homes and deliver our community care model quicker.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cPatients have consistently shared that they would prefer to be at home, or closer to home, and this tends to support their recovery. Making this change will mean we can care for and support more people, in a way that is appropriate to their needs, and within their local community.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cTregaron Hospital has been a part of our local community for a number of years.&nbsp;While we develop the broader Cylch Caron vision, Tregaron Hospital will continue to provide a base for our community staff and a facility for outpatient services.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>People can share their views between 1 August and 29 August 2024 in the following ways:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Drop-in event \u2013 anytime between 2pm and 7pm on Wednesday 21 August 2024 at Tregaron Memorial Hall, The Square, Tregaron, Ceredigion, SY25 6JL<\/li>\n\n\n\n<li>Online virtual event (via Zoom) &#8211; 22 August 2024 at 6pm (details available on our Have Your Say website below)<\/li>\n\n\n\n<li>Have Your Say website which can be found here <a href=\"https:\/\/www.haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk\/\">https:\/\/www.haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk\/<\/a><\/li>\n\n\n\n<li>Telephone: 0300 303 8322 (Choose option 5 for general enquiries)<\/li>\n\n\n\n<li>Email: <a href=\"mailto:hyweldda.engagement@wales.nhs.uk\">hyweldda.engagement@wales.nhs.uk<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Feedback from the engagement will be considered by the Health Board at its meeting in September 2024 alongside other important information, such as quality and safety requirements, staffing challenges, and financial and resource implications before making decision about the next steps.<\/p>\n\n\n\n<p>Hywel Dda University Health Board<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dweud eich dweud am welyau yn Ysbyty Cymunedol Tregaron Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd pobl i rannu eu barn am effaith cael gwared ar y naw gwely claf mewnol yn Ysbyty Cymunedol Tregaron a darparu gwasanaethau yn eu lle ar gyfer mwy o bobl yn y gymuned yng Ngheredigion. Mae\u2019r cyfnod hwn&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1402","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion-news"],"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"3.0.2","language":"gb","enabled_languages":["cy","gb"],"languages":{"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"gb":{"title":false,"content":false,"excerpt":false}}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1402","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1402"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1402\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1403,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1402\/revisions\/1403"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1402"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1402"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1402"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}