{"id":1486,"date":"2024-10-31T11:36:34","date_gmt":"2024-10-31T11:36:34","guid":{"rendered":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/?p=1486"},"modified":"2024-10-31T11:36:34","modified_gmt":"2024-10-31T11:36:34","slug":"ysgol-cribyn-yn-gartref-i-wyl-newydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/ysgol-cribyn-yn-gartref-i-wyl-newydd\/","title":{"rendered":"YSGOL CRIBYN YN GARTREF I\u00a0\u0174YL NEWYDD"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>Ffos Davies<\/strong>. Prifathro Cribyn yn nauddegau\u2019r ganrif ddiwethaf. Arweinydd c\u00f4r y pentre. Codwr canu Troedyrhiw ac athro di-d\u00e2l i weithwyr fferm yr ardal o\u2019dd \u00e2 golwg ar fynd i\u2019r coleg. Ac ar ben hynny i gyd, achubwr rai o ganeuon gwerin enwoca\u2019r genedl! Heb os, mi o\u2019dd e\u2019n dipyn o foi! A dydd Sadwrn, 26 Hydref, sefydlwyd g\u0175yl newydd yng Nghribyn i gofio amdano. \u2018A\u2019r ffordd ore o gofio amdano yw canu\u2019r caneuon yn uchel a gyda arddeliad\u2019 medd Euros Lewis, un o\u2019r trefnwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Mi o\u2019dd y gymwynas wna\u2019th e \u00e2\u2019r Gymraeg yn aruthrol\u2019 medd Euros. \u2018Sylweddolodd yn fuan r\u00f4l symud i Gribyn fod y caneuon yr hen bobol yn drysor \u2013 trysor o\u2019dd wedi eu colli o gymaint o rannau eraill o Gymru. Bwrodd ati i\u2019w \u2018recordo\u2019 \u00e2 help pensil,&nbsp;<em>copy-books<\/em>&nbsp;yr ysgol, nodiant So-Ffa a\u2019i glust. Meddyliwch: oni bai amdano galle \u2018Twll Bach y Clo\u2019&nbsp;&nbsp;a\u2019r&nbsp;&nbsp;\u2018March Glas\u2019&nbsp;&nbsp;a gymaint o berlau eraill fod wedi\u2019u diflannu i ebargofiant!\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd dau hanner i\u2019r \u0175yl. Bnawn dydd Sadwrn (2 hyd 4 o\u2019r gloch)cynhaliwyd sesiwn straeon a gemau lleol ar gyfer plant Meithrin a Chynradd gan&nbsp;<strong>Linda Tomos, Hilary McConnell<\/strong>&nbsp;a<strong>&nbsp;Geoff Davies&nbsp;<\/strong>gyda&#8217;r canwr gwerin&nbsp;<strong>Owen Shiers<\/strong>&nbsp;yn eu harwain i gyd-ganu\u2019r hen ganeuon. Cafwyd gwefr arbennig yn ystod y sesiwn wrth i Mari Dixon a John Davies, wyron Ffos Davies, gyrraedd wedi teitihio o&#8217;r De a rhannu straeon teuluol am eu tad-cu a phawb oedd yn bresennol.<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda\u2019r nos mi oedd neuadd Ysgol Cribyn dan ei sang ar gyfer&nbsp;<strong>Noson Lawen<\/strong>&nbsp;fawr yng nghwmni rhagor o ddisgynynddion Ffos Davies ynghyd a&#8217;r artistiaid:&nbsp;<strong>Cleif Harpwood,&nbsp;&nbsp;Ifan Gruffydd, Dafydd Jones, Ceri Rhys Matthews, Mali Lewis, Robyn Tomos, Carys H\u00e2f, Julie Murphy ac Iwan Coedfardre<\/strong><strong>.<\/strong>&nbsp;Medd Cleif wrth ymadael \u2018Mae\u2019n amlwg fod Ffos Davies yn dipyn o foi ac mi oedd heno, heb os, yn dipyn o noson \u2013 noson lawen go iawn!\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>FFOTOS<\/p>\n\n\n\n<p>1&nbsp;&nbsp;&nbsp; Iwan Coedfardre, Talgarreg yn codi&#8217;r gynulleidfa i gyd-ganu un hen ffefryn ar ol y llall.<\/p>\n\n\n\n<p>2&nbsp;&nbsp;&nbsp; Ceri Rhys Matthews, Pencader, yn gwefreiddio pawb a swn hudolus yr hen bibau Cymreig.<\/p>\n\n\n\n<p>3&nbsp;&nbsp;&nbsp; Cleif Harpwood a aeth yn ol at ei wreiddiau wrth ganu rhai o&#8217;r hen alawon a gasglwyd gan Ffos Davies.<\/p>\n\n\n\n<p>4&nbsp;&nbsp;&nbsp; Un forded o Noson-Lawenwyr yn joio mas-draw!<\/p>\n\n\n\n<p>5&nbsp;&nbsp;&nbsp; Cafodd Mari a John (canol), dau o wyron John Ffos Davies, groeso mawr wrth iddynt ymuno a sesiwn prynhawn y plant.<\/p>\n\n\n\n<p>6&nbsp;&nbsp;&nbsp; Y canwr gwerin Owen Shiers yn arwain &#8216;Twll Bach y Clo&#8217; gyda&#8217;r plant.<br><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"640\" height=\"480\" src=\"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Disgynyddion-Ffos-Davies.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1487\" style=\"width:730px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Disgynyddion-Ffos-Davies.jpg 640w, https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Disgynyddion-Ffos-Davies-300x225.jpg 300w, https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Disgynyddion-Ffos-Davies-80x60.jpg 80w\" sizes=\"auto, (max-width: 640px) 100vw, 640px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Disgynddion Ffos Davies yn yr Wyl gyntaf a gynhaliwyd ar 26 Hydref, 2024<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"640\" height=\"480\" src=\"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Iwan-Coedfardre.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1488\" srcset=\"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Iwan-Coedfardre.jpg 640w, https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Iwan-Coedfardre-300x225.jpg 300w, https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Iwan-Coedfardre-80x60.jpg 80w\" sizes=\"auto, (max-width: 640px) 100vw, 640px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Iwan Coedfadre yn codi hwyl yn y Noson Lawen.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ffos Davies. Prifathro Cribyn yn nauddegau\u2019r ganrif ddiwethaf. Arweinydd c\u00f4r y pentre. Codwr canu Troedyrhiw ac athro di-d\u00e2l i weithwyr fferm yr ardal o\u2019dd \u00e2 golwg ar fynd i\u2019r coleg. Ac ar ben hynny i gyd, achubwr rai o ganeuon gwerin enwoca\u2019r genedl! Heb os, mi o\u2019dd e\u2019n dipyn o foi! A dydd Sadwrn, 26&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1486","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion-news"],"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"3.0.2","language":"gb","enabled_languages":["cy","gb"],"languages":{"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"gb":{"title":false,"content":false,"excerpt":false}}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1486","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1486"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1486\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1489,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1486\/revisions\/1489"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1486"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1486"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1486"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}