{"id":1504,"date":"2024-11-22T10:40:51","date_gmt":"2024-11-22T10:40:51","guid":{"rendered":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/?p=1504"},"modified":"2024-11-22T10:41:40","modified_gmt":"2024-11-22T10:41:40","slug":"bwletin-costau-byw-cost-of-living-bulletin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/bwletin-costau-byw-cost-of-living-bulletin\/","title":{"rendered":"Bwletin Costau Byw \/ Cost of Living Bulletin"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-file\"><a id=\"wp-block-file--media-58afb933-e00f-404d-aa7f-3d45a3e2ea64\" href=\"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Poster-Bwletin-Costau-Byw-Biliau-Cartrefi.pdf\">Poster Bwletin Costau Byw &#8211; Biliau Cartrefi<\/a><a href=\"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Poster-Bwletin-Costau-Byw-Biliau-Cartrefi.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-58afb933-e00f-404d-aa7f-3d45a3e2ea64\">Download<\/a><\/div>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Bwletin Costau Byw Ceredigion: Biliau aelwyd ac ynni<\/h1>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/equalities.my.canva.site\/tachwedd-bwletin-costau-byw-biliau-aelwyd-ac-ynni\">Gallwch ddarllen y bwletin ar-lein.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Argraffwch y poster atodedig i hysbysebu&#8217;r bwletin.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Aelwydydd Ceredigion<\/h1>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae tai yng Ngheredigion yn h\u0177n ac yn llai ynni effeithlon nag mewn ardaloedd eraill.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gan bron 75% o gartrefi sg\u00f4r Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) islaw Gradd C.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae llawer o gartrefi oddi ar y rhwydwaith nwy, gan ddefnyddio pren, olew neu drydan i gynhesu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn golygu y gall fod yn ddrutach cadw ein tai yn gynnes.<\/p>\n\n\n\n<p>Darllenwch ymlaen i gael gwybod am y cymorth ariannol sydd ar gael a ffyrdd hawdd ac ymarferol o leihau eich costau ynni.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mae\u2019r cap ar brisiau ynni yn mynd i gynyddu ym mis Ionawr 2025, gan wneud biliau\u2019n ddrytach. Os gallwch gytuno ar fargen sefydlog gyda&#8217;ch cwmni ynni mae&#8217;n werth gwneud hynny nawr.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes<\/h1>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes yn ostyngiad untro o \u00a3150 oddi ar eich bil trydan. Os ydych yn gymwys, bydd eich cyflenwr trydan yn cymhwyso\u2019r gostyngiad i\u2019ch bil.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/cynllun-gostyngiad-cartrefi-cynnes\">Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes &#8211; Gwefan y Llywodraeth<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">D\u0175r Cymru<\/h1>\n\n\n\n<p>Wrth i&#8217;r argyfwng costau byw barhau, mae nifer o ffyrdd y gall D\u0175r Cymru helpu i wneud eich biliau&#8217;n fwy fforddiadwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae eu cymorth costau byw wedi&#8217;i gynllunio i gefnogi eu cwsmeriaid a dweud wrthynt am yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael er budd aelwydydd a lleihau&#8217;r defnydd o dd\u0175r.<\/p>\n\n\n\n<p>Darllenwch fwy am yr hyn sydd ar gael ar <a href=\"https:\/\/www.dwrcymru.com\/cy-gb\/cost-of-living-support\">wefan D\u0175r Cymru<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Mesuryddion Olew a Thalu wrth Fynd<\/h1>\n\n\n\n<p>Os ydych chi&#8217;n gwresogi&#8217;ch cartref gan ddefnyddio olew, gallwch ymuno \u00e2 chlwb o bobl leol eraill i brynu gyda&#8217;ch gilydd a lleihau&#8217;r pris. Dysgwch fwy ar wefan Cyngor Ceredigion: <a href=\"https:\/\/www.ceredigion.gov.uk\/preswyliwr\/iechyd-a-lles\/clwb-clud-clybiau-olew-ceredigion\/\">Clwb Clyd Clybiau Tanwydd Ceredigion<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Y Clwb Olew yw\u2019r clwb olew mwyaf sy\u2019n cael ei redeg gan deulu yn y DU, gallwch ymuno ar-lein gan ddefnyddio eu gwefan.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych ar fesurydd rhagdalu ac yn cael trafferth i ychwanegu ato, efallai y gallwch ddefnyddio&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.fuelbankfoundation.org\">Fuel Bank Foundation<\/a>&nbsp;(Saesneg yn unig). Mae hyn yn debyg i fanc bwyd, ond ar gyfer tanwydd. Bydd angen i chi gael eich cyfeirio gan asiantaeth i gael mynediad iddo. Gallwch ofyn am atgyfeiriad gan:<\/p>\n\n\n\n<p>Cyngor ar Bopeth Ceredigion: 01970 621975<\/p>\n\n\n\n<p>Eglwys Bro Aberystwyth: 01970 617184<\/p>\n\n\n\n<p>Age Cymru Dyfed: 03333 447 874<\/p>\n\n\n\n<p>Shelter Cymru: 0800 495 495&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">CAB Cyngor ar Bopeth Ceredigion<\/h1>\n\n\n\n<p>Rydym yn rhoi cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim i bobl leol, gan gynnwys<\/p>\n\n\n\n<p>cyngor ar filiau a dyledion ynni.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch gysylltu \u00e2&#8217;n t\u00eem lleol cyfeillgar yn bersonol, dros y ff\u00f4n, trwy e-bost, neges destun, WhatsApp, negesydd Facebook neu drwy&#8217;r post.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae sesiynau galw heibio ar gael:<\/p>\n\n\n\n<p>Aberystwyth &#8211; Dydd Mercher 10:00 &#8211; 15:00, Canolfan Fethodistaidd Sant Paul<\/p>\n\n\n\n<p>Aberteifi &#8211; Dydd Mercher 10:00 &#8211; 15:00, Neuadd Hen Ysgol y Santes Fair<\/p>\n\n\n\n<p>Llanbedr Pont Steffan &#8211; Dydd Llun 10:00 &#8211; 15:00, Eglwys Emmaus<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwn hefyd ddod allan i gwrdd \u00e2 chi os na allwch gyrraedd un o\u2019n sesiynau galw heibio.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae manylion cyswllt llawn ar wefan <a href=\"https:\/\/www.cabceredigion.org\">Cyngor ar Bopeth Ceredigion<\/a>. (Saesneg yn unig)<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Cyfrifiannell Cost Offer Trydanol<\/h1>\n\n\n\n<p>Mae gan Gyngor ar Bopeth gyfrifiannell i&#8217;ch helpu i gyfrifo faint o drydan y mae eich offer yn ei ddefnyddio a faint o arian y mae&#8217;n ei gostio.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch ddefnyddio&#8217;r offeryn hwn i gymharu cost gwahanol offer cyn i chi eu prynu.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.citizensadvice.org.uk\/cymraeg\/Defnyddwyr\/energy\/energy-supply\/save-energy-at-home\/check-how-much-your-electrical-appliances-cost-to-use\/\">Canolfan Cyngor ar Bopeth &#8211; Cyfrifiannell Costau Offer Trydanol<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Gwefan Helpwr Arian<\/h1>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.moneyhelper.org.uk\/cy\">Gwefan yr Helpwr Arian<\/a>&nbsp;yn cynnig cyngor ariannol am ddim y gallwch ymddiried ynddo. Mae yna offer a all eich helpu i wneud y mwyaf o&#8217;ch incwm.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.moneyhelper.org.uk\/cy\/money-troubles\/cost-of-living\/bill-prioritiser\">Defnyddiwch eu hofferyn i&#8217;ch helpu i flaenoriaethu eich biliau.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Defnyddiwch eu <a href=\"https:\/\/www.moneyhelper.org.uk\/cy\/everyday-money\/budgeting\/budget-planner\">cynllunydd cyllideb rad ac am ddim<\/a>&nbsp;i&#8217;ch helpu i reoli&#8217;ch arian.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch hefyd ddefnyddio eu gwefan i ddod o hyd i wasanaethau <a href=\"https:\/\/www.moneyhelper.org.uk\/cy\/money-troubles\/dealing-with-debt\/use-our-debt-advice-locator\">cyngor ar ddyledion am ddim.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Cynlluniau a Chyngor Effeithlonrwydd Ynni<\/h1>\n\n\n\n<p>Mae amrywiaeth o gynlluniau ar gael yng Ngheredigion ar hyn o bryd. Dysgwch fwy am y cynlluniau, gostyngiadau ynni a grantiau eraill ar <a href=\"https:\/\/www.ceredigion.gov.uk\/preswyliwr\/cymorth-costau-byw\/biliau-r-aelwyd-ac-ynni\/\">wefan Cyngor Sir Ceredigion<\/a>.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">ECO4 Flex<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Rhwymedigaeth Cwmn\u00efau Ynni 4 (ECO4) yn gynllun effeithlonrwydd ynni Llywodraeth y DU a fydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2026. Cafwyd diweddariadau diweddar ar gyfer pwy all wneud cais, o dan Gynllun Inswleiddio Prydain Fawr. <a href=\"https:\/\/www.ceredigion.gov.uk\/preswyliwr\/tai\/gwybodaeth-a-chymorth-ariannol\/cynlluniau-effeithlonrwydd-ynni\/cyllid-hyblygrwydd-eco\/\">Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais ar wefan y cyngor.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Nyth<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Nyth yn gynllun gan Lywodraeth Cymru sy&#8217;n cynnig cyngor rhad ac am ddim ar gynlluniau arbed ynni. Darganfyddwch fwy ar eu gwefan <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cynllun-cartrefi-cynnes-nyth\">Cynllun Cartrefi Cynnes Nyth<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Severn Wye<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Severn Wye yn cynnig cyngor ynni. Gall eu cynghorwyr yng Ngheredigion ymweld \u00e2 phobl yn eu cartrefi i gynnig cymorth gyda dyledion tanwydd a defnyddio ynni. Ffoniwch nhw ar 0800 170 1600 i weld a allant gynnig ymweliad cartref am ddim i chi, neu llenwch y ffurflen gysylltu ar eu <a href=\"https:\/\/severnwye.org.uk\/advice-support\/\">gwefan<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ymddiriedolaeth Arbed Ynni<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn sefydliad annibynnol sy&#8217;n gweithio i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r argyfwng hinsawdd. Ar eu <a href=\"https:\/\/energysavingtrust.org.uk\/energy-at-home\/\">gwefan<\/a>&nbsp;(Saesneg yn unig) mae awgrymiadau a chyngor ar ffyrdd cyflym a hawdd o arbed ynni a gostwng eich biliau.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cymru Gynnes<\/h3>\n\n\n\n<p>Cymru Gynnes yw\u2019r Cwmni Buddiannau Cymunedol hynaf yng Nghymru a\u2019i nod yw rhoi terfyn ar dlodi tanwydd yng Nghymru. Ewch i&#8217;w <a href=\"https:\/\/www.warmwales.org.uk\/cy\/\">gwefan<\/a>&nbsp;i ddod o hyd i&#8217;w cynnig am gyngor ynni a&#8217;ch helpu i wneud cais am grantiau.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA)<\/h3>\n\n\n\n<p>NEA yw\u2019r elusen tlodi tanwydd cenedlaethol, sy\u2019n gweithio i sicrhau bod pawb yn gynnes ac yn ddiogel gartref. Ewch i&#8217;w tudalen we <a href=\"https:\/\/energysavingtrust.org.uk\/energy-at-home\/\">Get Help<\/a>&nbsp;i gael cyngor ar gynhesu eich cartref a chymorth costau byw.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gofal a Thrwsio, H\u0177n Ddim yn Oer<\/h3>\n\n\n\n<p>Os ydych chi dros 60 oed gallwch gael cymorth gan Ofal a Thrwsio i gael cyllid i wella effeithlonrwydd ynni a chynhesrwydd eich cartref. Ewch i wefan <a href=\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/cy\/agencies\/care-repair-west-wales\/\">Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru<\/a>&nbsp;neu ffoniwch 01437 766717 i ofyn am ymweliad gan y Swyddog Ynni Cartref.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Power Up Cymru (Saesneg yn unig)<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a\u2019r Grid Cenedlaethol yn darparu \u2018<a href=\"https:\/\/energysavingtrust.org.uk\/programme\/national-grid-power-up\/\">Power Up Wales<\/a>.\u2019 Maent yn rhoi cyngor i bobl sy\u2019n byw mewn tlodi tanwydd a hefyd yn cefnogi cwsmeriaid ar y Gofrestr Gwasanaethau \u00e2 Blaenoriaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Llenwch y <a href=\"https:\/\/forms.office.com\/pages\/responsepage.aspx?id=YUE4PGI7BU2UhlKVt2bjbPdC3hiil2JAhT9Vz-JAxg9UNFRLSzAyUE5QV1kxNUlBQUU1QzFOV0FYWi4u&amp;route=shorturl\">ffurflen ar-lein hon<\/a>&nbsp;neu ffoniwch 0808 808 2274 i gael gwybod sut y gallant helpu.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth<\/h1>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Gofrestr Gwasanaethau \u00e2 Blaenoriaeth yn wasanaeth rhad ac am ddim ledled y DU sy&#8217;n darparu cymorth ychwanegol. Gallwch ymuno os ydych yn feichiog, os oes gennych blant o dan 5 oed, os ydych wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth neu os ydych yn anabl. Mae peth o&#8217;r help y gallwch ei gael yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<p>Cefnogaeth flaenoriaethol mewn argyfwng.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cynllun cyfrinair os oes angen i rywun ymweld \u00e2 chi neu gysylltu \u00e2 chi, gan eich helpu i deimlo&#8217;n hyderus eu bod yn ddilys.<\/li>\n\n\n\n<li>Y gallu i enwebu rhywun rydych yn ymddiried ynddo i dderbyn cyfathrebiadau a biliau gan eich cyflenwr.<\/li>\n\n\n\n<li>Y cyfle i symud eich mesurydd rhagdalu os na allwch ei gyrraedd yn ddiogel i ychwanegu ato.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwybodaeth cyfrif a biliau mewn print bras neu braille.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae eu gwefan yn rhoi rhagor o wybodaeth ac yn esbonio sut i ymuno <a href=\"https:\/\/www.thepsr.co.uk\/\">www.thepsr.co.uk<\/a>&nbsp;(Saesneg yn unig)<\/p>\n\n\n\n<p>Ofgem yw ein rheolydd ynni annibynnol. Mae ganddynt hefyd wybodaeth ar eu gwefan:<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.ofgem.gov.uk\/cy\/cyngor-ar-ynni-i-gartrefi\/ymuno-chofrestr-gwasanaethau-blaenoriaeth-eich-cyflenwr\">Ymunwch \u00e2 Chofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth eich cyflenwr | Ofgem<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Taliadau Tywydd Oer<\/h1>\n\n\n\n<p>Byddwch yn derbyn Taliad Tywydd Oer untro yn awtomatig bob tro y bydd yn oer iawn os byddwch yn derbyn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Credyd Pensiwn<\/li>\n\n\n\n<li>Cymhorthdal \u200b\u200bIncwm<\/li>\n\n\n\n<li>Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm<\/li>\n\n\n\n<li>Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm<\/li>\n\n\n\n<li>Credyd Cynhwysol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>&nbsp;Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/taliad-tywydd-oer\">Taliad Tywydd Oer y Llywodraeth<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Taliad Tanwydd Gaeaf<\/h1>\n\n\n\n<p>Os cawsoch eich geni cyn 23 Medi 1958 gallech gael Taliad Tanwydd Gaeaf o naill ai \u00a3200 neu \u00a3300 i\u2019ch helpu i dalu eich biliau gwresogi ar gyfer gaeaf 2024 i 2025.<\/p>\n\n\n\n<p>Telir y rhan fwyaf o bobl gymwys ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr. Os ydych chi\u2019n gymwys, fe gewch lythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn dweud faint fyddwch chi\u2019n ei gael.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth y DU &#8211; <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/taliad-tanwydd-gaeaf\">Taliad Tanwydd Gaeaf<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych wedi clywed am y newidiadau i Daliadau Tanwydd Gaeaf, byddwch yn ymwybodol bod yn rhaid i chi wneud cais am Gredyd Pensiwn erbyn 21 Rhagfyr 2024 i fod yn gymwys ar gyfer Taliad Tanwydd Gaeaf 2024 i 2025.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Cronfa Cymorth Dewisol<\/h1>\n\n\n\n<p>Mae dau fath o grant y gallwch wneud cais amdanynt mewn argyfwng.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Taliad Cymorth Argyfwng (TCA)<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>I dalu am gostau hanfodol, fel bwyd, tanwydd, trydan, dillad neu deithio brys.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Taliad Cymorth Unigol (TCU)<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>I dalu am \u2018nwyddau gwyn\u2019 fel oergell neu beiriant golchi dillad, neu ddodrefn cartref fel gwelyau, soffas a chadeiriau.<\/p>\n\n\n\n<p>Darganfyddwch a ydych yn gymwys a gwnewch gais ar <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cronfa-cymorth-dewisol-daf?_gl=1*1vl796g*_ga*MjQ0OTM2NzcuMTczMTQ5NzY4NA..*_ga_L1471V4N02*MTczMjEyMTM2MC4zLjEuMTczMjEyMTc0Mi4wLjAuMA..\">wefan y llywodraeth<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Ffyrdd Cost Effeithiol o Leihau Biliau<\/h1>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Stribedi tywydd gludiog wedi&#8217;u gosod o amgylch drysau a ffenestri.<\/li>\n\n\n\n<li>Ysgubiadau drysau a seliau brwsh.<\/li>\n\n\n\n<li>Ffoiliau rheiddiadur adlewyrchol wedi&#8217;u gosod y tu \u00f4l i rheiddiaduron.<\/li>\n\n\n\n<li>Llenni trwm, wedi\u2019u cadw ar gau unwaith y bydd hi&#8217;n dywyll.<\/li>\n\n\n\n<li>Lagio pibellau wedi&#8217;i osod ar unrhyw bibellau sydd wedi&#8217;u hamlygu.<\/li>\n\n\n\n<li>Amnewid bylbiau gyda rhai LED newydd pan fydd eu hangen arnynt.<\/li>\n\n\n\n<li>Atalyddion drafft DIY, fel blancedi sb\u00e2r ar silffoedd ffenestri a fframiau drysau<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Yr isafswm y dylech wresogi&#8217;ch cartref yn ddiogel yn rheolaidd yw 16 \u00b0C.&nbsp; Dylech anelu at wresogi&#8217;ch ystafelloedd i uwch na hynny unwaith y dydd i atal llwydni rhag ffurfio. Gallwch dargedu gwresogi rhai ystafelloedd i dymheredd uwch, fel ystafelloedd gwely plant.<\/p>\n\n\n\n<p>Dewch o hyd i ragor o awgrymiadau arbed ynni ar <a href=\"https:\/\/www.wwutilities.co.uk\/services\/priority-customers\/energy-and-water-saving-advice\/\">wefan Wales and West Utilities.(<\/a>Saesneg yn unig)<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Gwresogi&#8217;r Person<\/h1>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bwysig gwresogi eich cartref i&#8217;ch cadw chi a&#8217;ch teulu yn iach ac i atal difrod hirdymor i&#8217;r t\u0177.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma rai ffyrdd o gynhesu&#8217;ch hun i fod yn fwy cyfforddus, mae&#8217;r rhain yn costio llawer llai na chynhesu ystafell neu d\u0177 cyfan.<\/p>\n\n\n\n<p>Blancedi trydan &#8211; mae Ovo Energy ac Octopus Energy yn rhoi&#8217;r rhain i ffwrdd am ddim i gwsmeriaid bregus.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwl\u00e2n go iawn, cadwch olwg mewn siopau elusen am siwmperi a blancedi gwl\u00e2n.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynhenwyr llaw trydan &#8211; menig trydan y gellir eu hailwefru neu fenig, mae&#8217;r rhain yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi&#8217;n gweithio gartref.<\/p>\n\n\n\n<p>Poteli d\u0175r poeth &#8211; gwnewch yn si\u0175r bod y rhain o fewn eu dyddiad, gall hen rwber ollwng. Gallwch wirio hyn gan ddefnyddio\u2019r \u2018olwyn flodau\u2019 sydd wedi\u2019i hargraffu ar wddf y botel, mae\u2019n cynnwys y flwyddyn y gwnaed y botel. Anelwch at newid poteli bob 2-3 blynedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Gardd Enfys yn Llechryd yn cynnig pecynnau cynnes am ddim, gallwch eu cyrraedd dros y ff\u00f4n ar 07815 658955.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Cymorth i Aros<\/h1>\n\n\n\n<p>Ydych chi\u2019n ei chael hi\u2019n anodd talu eich morgais?<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw gwerth eich t\u0177 yn llai na \u00a3300k a bod incwm eich cartref yn is na \u00a367k, efallai y bydd hep ar gael i chi.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cael-help-i-dalu-eich-morgais-gyda-benthyciad-ecwiti-rennir-cymorth-i-aros?_gl=1*1udjehe*_ga*MjQ0OTM2NzcuMTczMTQ5NzY4NA..*_ga_L1471V4N02*MTczMjE4NjkwMC40LjAuMTczMjE4NjkwMC4wLjAuMA..\">Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais ar wefan y lywodraeth.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Ewch i wefan y Cyngor Sir i gael gwybodaeth am gymorth costau byw<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.ceredigion.gov.uk\/preswyliwr\/cymorth-costau-byw\/\">Cefnogaeth Costau Byw &#8211; Cyngor Sir Ceredigion<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y bwletin nesaf yn cael ei gyhoeddi ar 20 Rhagfyr.&nbsp;&nbsp; Byddwn yn canolbwyntio ar \u2018Cefnogaeth dros y Nadolig\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Cysylltwch \u00e2 ni os oes gennych wybodaeth yr hoffech i ni ei chynnwys<\/p>\n\n\n\n<p>E-bost: <a href=\"mailto:clic@ceredigion.gov.uk\">clic@ceredigion.gov.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Ff\u00f4n: 01545 570881<\/p>\n\n\n\n<p>Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am ein e-fwletin drwy ateb dau gwestiwn.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/forms.office.com\/pages\/responsepage.aspx?id=uYWs-IYvNU2Fwnkevin1iGzZSF41EhhIif1LnHZZFy1UQTJWNlU0UVkyODdUMUFHR1hUUVRRVUU0TS4u&amp;origin=lprLink&amp;lang=cy-GB&amp;route=shorturl\">Cliciwch yma am yr arolwg<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Ceredigion Cost of Living Bulletin: Household and Energy Bills<\/h1>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/equalities.my.canva.site\/november-cost-of-living-household-and-energy-bills\">You can read the bulletin online.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Please print out the attached poster to advertise the bulletin.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Households in Ceredigion<\/h1>\n\n\n\n<p>Houses in Ceredigion are older and less energy efficient than in other areas.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Nearly 75% of homes have an Energy Performance Certificate (EPC) rating of below Grade C.<\/li>\n\n\n\n<li>Many homes are off the gas network, using wood, oil or electric to heat.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>This means that it can be more expensive to keep our houses warm.<\/p>\n\n\n\n<p>Read on to find out about financial support available and easy, practical ways to reduce your energy costs.<\/p>\n\n\n\n<p>The energy price cap is going to increase in January 2025, making bills more expensive. If you can agree a fixed deal with your energy company it is worth doing so now.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Warm Home Discount Scheme<\/h1>\n\n\n\n<p>The Warm Home Discount Scheme is a one-off \u00a3150 discount off your electricity bill. If you\u2019re eligible, your electricity supplier will apply the discount to your bill.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/the-warm-home-discount-scheme\">Warm Home Discount Scheme &#8211; Government Website<\/a>&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">D\u0175r Cymru<\/h1>\n\n\n\n<p>As the cost of living crisis continues, there are a number of ways D\u0175r Cymru may be able to help make your bills more affordable.<\/p>\n\n\n\n<p>Their cost of living support is designed to support their customers and tell them about the range of options available to benefit households and reduce water usage.<\/p>\n\n\n\n<p>Read more about what\u2019s available on the <a href=\"https:\/\/www.dwrcymru.com\/en\/cost-of-living-support\">D\u0175r Cymru website<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Oil and Pay as you Go Meters<\/h1>\n\n\n\n<p>If you heat your home using oil, you can join a club of other local people to buy together and reduce the price. Find out more on Ceredigion Council website: <a href=\"https:\/\/www.ceredigion.gov.uk\/resident\/health-and-wellbeing\/club-cosy-ceredigion-fuel-clubs\/\">Club Cosy Ceredigion Fuel Clubs<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>The&nbsp; Oil Club is the largest family run oil club in the UK, you can join online using their website.<\/p>\n\n\n\n<p>If you are on a pre-payment meter and struggling to top up, you may be able to&nbsp; use the <a href=\"https:\/\/www.fuelbankfoundation.org\">Fuel Bank Foundation<\/a>. This is similar to a food bank, but for fuel. You will need to be referred by an agency to access it. You can request a referral from:<\/p>\n\n\n\n<p>Ceredigion Citizen Advice: 01970 621975<\/p>\n\n\n\n<p>Bro Aberystwyth Church: 01970 617184<\/p>\n\n\n\n<p>Age Cymru Dyfed: 03333 447 874<\/p>\n\n\n\n<p>Shelter Cymru: 0800 495 495&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">CAB Ceredigion Citizen Advice<\/h1>\n\n\n\n<p>We give free, confidential and impartial advice to local people, including<\/p>\n\n\n\n<p>advice about bills and energy debts.<\/p>\n\n\n\n<p>You can contact our friendly local team in person, by phone, email, text, WhatsApp, Facebook messenger or by post.<\/p>\n\n\n\n<p>Drop in sessions are available:<\/p>\n\n\n\n<p>Aberystwyth &#8211; Wednesday 10:00 &#8211; 15:00, St Paul\u2019s Methodist Centre<\/p>\n\n\n\n<p>Cardigan &#8211; Wednesday 10:00 &#8211; 15:00, St Mary\u2019s Old School Hall<\/p>\n\n\n\n<p>Lampeter &#8211; Monday 10:00 &#8211; 15:00, Emmaus Church<\/p>\n\n\n\n<p>We can also come out to meet you if you can\u2019t get to one of our drop ins.<\/p>\n\n\n\n<p>Full contact details are on <a href=\"https:\/\/www.cabceredigion.org\/services\/\">Ceredigion Citizen Advice website<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Electrical Appliance Cost Calculator<\/h1>\n\n\n\n<p>Citizen Advice have a calculator to help you calculate how much electricity your appliances are using and how much money that costs.<\/p>\n\n\n\n<p>You can use this tool to compare the cost of different appliances before you buy them.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.citizensadvice.org.uk\/wales\/consumer\/energy\/energy-supply\/save-energy-at-home\/check-how-much-your-electrical-appliances-cost-to-use\/\">Citizen Advice Bureau &#8211; Electrical Appliance Cost Calculator<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Money Helper Website<\/h1>\n\n\n\n<p>The <a href=\"https:\/\/www.moneyhelper.org.uk\/en\">Money Helper Website<\/a>&nbsp;offers free money advice that you can trust. There are tools that can help you maximise your income.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.moneyhelper.org.uk\/en\/money-troubles\/cost-of-living\/bill-prioritiser\">Use their tool to help you prioritise your bills.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Use their <a href=\"https:\/\/www.moneyhelper.org.uk\/en\/everyday-money\/budgeting\/budget-planner\">free budget planner<\/a>&nbsp;to help you manage your finances.<\/p>\n\n\n\n<p>You can also use their website to <a href=\"https:\/\/www.moneyhelper.org.uk\/en\/money-troubles\/dealing-with-debt\/use-our-debt-advice-locator\">find free debt advice<\/a>&nbsp;services.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Energy Efficiency Schemes and Advice<\/h1>\n\n\n\n<p>There are a range of schemes currently available in Ceredigion. Find out more about the schemes, energy discounts and other grants on <a href=\"https:\/\/www.ceredigion.gov.uk\/resident\/cost-of-living-support\/household-and-energy-bills\/\">Ceredigion County Council Website. <\/a>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">ECO4 Flex<\/h3>\n\n\n\n<p>The Energy Company Obligation 4 (ECO4) is a UK Government energy efficiency scheme that will run until March 2026.&nbsp; There have been recent updates for who can apply, under the Great British Insulation Scheme<a href=\"https:\/\/www.ceredigion.gov.uk\/resident\/housing\/financial-assistance\/energy-efficiency-schemes\/eco-flexibility-funding\/\">. You can find out more and apply on the council website<\/a>.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Nest<\/h3>\n\n\n\n<p>Nest is a scheme from the Welsh Government offering free advice on energy saving schemes. Find out more on their website <a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/nest-warm-homes-programme\">Nest Warm Homes Programme<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Severn Wye<\/h3>\n\n\n\n<p>Severn Wye offer energy advice. Their advisers in Ceredigion can visit people at home to offer support with fuel debt and energy use. Call them on 0800 170 1600 to see if they can offer you a free home visit, or complete the contact form on their <a href=\"https:\/\/severnwye.org.uk\/advice-support\/\">website<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Energy Saving Trust<\/h3>\n\n\n\n<p>Energy Saving Trust is an independent organisation working to address the climate emergency. Their <a href=\"https:\/\/energysavingtrust.org.uk\/energy-at-home\/\">website<\/a>&nbsp;has lots of tips and advice for quick and easy ways to save energy and lower your bills.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Warm Wales<\/h3>\n\n\n\n<p>Warm Wales is the oldest Community Interest Company in Wales and aim to end fuel poverty in Wales<a href=\"https:\/\/www.warmwales.org.uk\">. Go to their website<\/a>&nbsp;to find their offer for energy advice and help you apply for grants.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">National Energy Action<\/h3>\n\n\n\n<p>NEA is the national fuel poverty charity, working to make sure that everyone is warm and safe at home. <a href=\"https:\/\/www.nea.org.uk\/get-help\/\">Visit their Get Help webpage<\/a>&nbsp;to get advice on warming your home and cost of living support.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Care and Repair, Older Not Colder<\/h3>\n\n\n\n<p>If you are over 60 you can get support from Care and Repair to access funding to improve the energy efficiency and warmth of your home. Visit the <a href=\"https:\/\/careandrepair.org.uk\/agencies\/care-repair-west-wales\/\">Care and Repair West Wales website<\/a>&nbsp;or phone 01437 766717 to request a visit from the Home Energy Officer.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Power Up Wales<\/h3>\n\n\n\n<p>Energy Saving Trust and the National Grid deliver \u2018<a href=\"https:\/\/energysavingtrust.org.uk\/programme\/national-grid-power-up\/\">Power Up Wales<\/a>.\u2019 They provide advice to people living in fuel poverty and also support customers on the Priority Services Register.<\/p>\n\n\n\n<p>Fill out this <a href=\"https:\/\/forms.office.com\/pages\/responsepage.aspx?id=YUE4PGI7BU2UhlKVt2bjbPdC3hiil2JAhT9Vz-JAxg9UNFRLSzAyUE5QV1kxNUlBQUU1QzFOV0FYWi4u&amp;route=shorturl\">online form<\/a>&nbsp;or phone 0808 808 2274 to find out how they can help.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Priority Services Register<\/h1>\n\n\n\n<p>The Priority Services Register is a free UK wide service which provides extra support. You can join if you are pregnant, if you have children under 5, if you have reached state pension age or if you are disabled. Some of the help you can get includes:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Priority support in an emergency.<\/li>\n\n\n\n<li>A password scheme if someone needs to visit or contact you, helping you feel confident they are genuine.<\/li>\n\n\n\n<li>The ability to nominate someone you trust to receive communications and bills from your supplier.<\/li>\n\n\n\n<li>The chance to move your prepayment meter if you can\u2019t safely get to it to top up.<\/li>\n\n\n\n<li>Account information and bills in large print or braille.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Their website provides more information and explains how to join <a href=\"http:\/\/www.thepsr.co.uk\">www.thepsr.co.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Ofgem is our independent energy regulator. They also have information on their website:<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.ofgem.gov.uk\/energy-advice-households\/join-your-suppliers-priority-services-register\">Join your supplier\u2019s Priority Services Register | Ofgem<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Cold Weather Payments<\/h1>\n\n\n\n<p>You will automatically receive a one-off Cold Weather Payment each time it gets very cold if you receive:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Pension Credit<\/li>\n\n\n\n<li>Income Support<\/li>\n\n\n\n<li>Income-based Jobseeker\u2019s Allowance<\/li>\n\n\n\n<li>Income-related Employment and Support Allowance<\/li>\n\n\n\n<li>Universal Credit<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>&nbsp;Further information is available on the <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/cold-weather-payment\">Government&#8217;s Cold Weather Payment page<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Winter Fuel Payment<\/h1>\n\n\n\n<p>If you were born before 23 September 1958 you could get a Winter Fuel Payment of either \u00a3200 or \u00a3300 to help you pay your heating bills for winter 2024 to 2025.<\/p>\n\n\n\n<p>Most eligible people are paid in November or December. If you\u2019re eligible, you\u2019ll get a letter in October or November saying how much you\u2019ll get.<\/p>\n\n\n\n<p>There is more information on <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/winter-fuel-payment\">UK Government website &#8211; Winter Fuel Payment<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>If you have heard about the changes to Winter Fuel Payments, please be aware that you must apply for Pension Credit by 21 December 2024 to qualify for the 2024 to 2025 Winter Fuel Payment.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Discretionary Assistance Fund<\/h1>\n\n\n\n<p>There are two types of grant that you can apply for in an emergency.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Emergency Assistance Payment (EAP)<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>To pay for essential costs, such as food, fuel, electricity, clothing or emergency travel.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Individual Assistance Payment (IAP)<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>To pay for \u2018white goods\u2019 such as a fridge or washing machine, or home furniture such as beds, sofas and chairs.<\/p>\n\n\n\n<p>Find out if you are eligible and apply on the <a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/discretionary-assistance-fund-daf\">government website<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Cost Effective Ways to Reduce Bills<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Self adhesive Weather Strips applied around doors and windows.<\/li>\n\n\n\n<li>Door sweeps and brush seals.<\/li>\n\n\n\n<li>Reflective radiator foils fitted behind radiators.<\/li>\n\n\n\n<li>Heavy curtains, kept closed once it is dark.<\/li>\n\n\n\n<li>Pipe lagging fitted on any exposed pipes.<\/li>\n\n\n\n<li>Replace bulbs with new LED ones when they need it.<\/li>\n\n\n\n<li>DIY draught excluders, such as spare blankets on windowsills and doorframes<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>The minimum that you should safely heat your house regularly to is 16\u00b0C. You should aim to heat your rooms to above that once a day to prevent mould from forming. You can target heating certain rooms to higher temperatures, such as children\u2019s bedrooms.<\/p>\n\n\n\n<p>Find more energy saving tips on <a href=\"https:\/\/www.wwutilities.co.uk\/services\/priority-customers\/energy-and-water-saving-advice\/\">Wales and West Utilities website<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Heating the Person<\/h1>\n\n\n\n<p>It is important to heat your home to keep you and your family healthy and to prevent long term damage to the house.<\/p>\n\n\n\n<p>Here are some ways to heat yourself to be more comfortable, these cost a lot less than heating a whole room or house.<\/p>\n\n\n\n<p>Electric blankets &#8211; Ovo Energy and Octopus Energy are are giving these away for free to vulnerable customers.<\/p>\n\n\n\n<p>Real wool, look out in charity shops for wool jumpers and blankets.<\/p>\n\n\n\n<p>Electric handwarmers &#8211; rechargeable electric gloves or mittens, these are particularly helpful if you work from home.<\/p>\n\n\n\n<p>Hot water bottles &#8211; make sure to check these are in date, old rubber can leak. You can check this using the \u2018flower wheel\u2019 printed on the neck of the bottle, it includes the year the bottle was made. Aim to replace bottles every 2-3 years.<\/p>\n\n\n\n<p>Gardd Enfys in Llechryd are offering free warm packs, you can reach them over the phone on 07815 658955.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Help to Stay<\/h1>\n\n\n\n<p>Finding it difficult to pay your mortgage?<\/p>\n\n\n\n<p>If your house is worth under \u00a3300k and your household income is below \u00a367k, there may be help available to you?<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/get-help-paying-your-mortgage-help-stay-shared-equity-loan?_gl=1%2A1udjehe%2A_ga%2AMjQ0OTM2NzcuMTczMTQ5NzY4NA..%2A_ga_L1471V4N02%2AMTczMjE4NjkwMC40LjAuMTczMjE4NjkwMC4wLjAuMA..\">You can find out more and apply on the government website<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Head to the County Council\u2019s website for information on cost of living support<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.ceredigion.gov.uk\/resident\/cost-of-living\/\">Cost of Living Support &#8211; Ceredigion County Council<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>The next bulletin will come out on 20th December.&nbsp;&nbsp; We will focus on \u2018Support over Christmas\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Please get in touch if you have information you would like us to include<\/p>\n\n\n\n<p>Email: <a href=\"mailto:clic@ceredigion.gov.uk\">clic@ceredigion.gov.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Telephone: 01545 570881<\/p>\n\n\n\n<p>Let us know what you think of our e-bulletin by answering two questions.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/forms.office.com\/e\/kCPnf09g3N?origin=lprLink\">Click here for the survey<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Carys Huntly<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"58\" height=\"38\" src=\"\"><\/p>\n\n\n\n<p>Rhagenw: hi<\/p>\n\n\n\n<p>Pronoun: she\/her<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Swyddog Cydraddoldeb a Chynhwysiant<\/strong>&nbsp;\/ Equalities and Inclusion Officer<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Polisi a Perfformiad <\/strong>\/ Policy &amp; Performance<\/p>\n\n\n\n<p>Cyngor Sir Ceredigion County Council<\/p>\n\n\n\n<p>01970 634181<\/p>\n\n\n\n<p>07977 636596<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bwletin Costau Byw Ceredigion: Biliau aelwyd ac ynni Gallwch ddarllen y bwletin ar-lein. Argraffwch y poster atodedig i hysbysebu&#8217;r bwletin. Aelwydydd Ceredigion Mae llawer o gartrefi oddi ar y rhwydwaith nwy, gan ddefnyddio pren, olew neu drydan i gynhesu. Mae hyn yn golygu y gall fod yn ddrutach cadw ein tai yn gynnes. Darllenwch ymlaen&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1504","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion-news"],"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"3.0.2","language":"gb","enabled_languages":["cy","gb"],"languages":{"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"gb":{"title":false,"content":false,"excerpt":false}}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1504","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1504"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1504\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1507,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1504\/revisions\/1507"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1504"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1504"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfihangelystrad-cc.org.uk\/gb\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1504"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}