Croeso i Wefan Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad

Mae Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad yng nghanol Sir Ceredigion, hanner ffordd rhwng Lanbedr Pont Steffan ac Aberaeron a hanner ffordd o’r Gogledd i’r De o’r Sir.

Wedi ad-drefni Llywodraeth Leol yn 1974, pan sefydlwyd Cyngor Sir Dyfed, cafodd y Cynghorau Plwyf eu galw yn ‘Gynghorau Cymuned’. Mae tua 880 o etholwyr yng nghymuned Llanfihangel Ystrad.

Yn 1987 unwyd Cyngor Cymuned Dihewyd a Llanfihangel Ystrad a’i elwid yn ‘Ward Dihewyd’ gyda tua 200 o etholwyr. Mae yna wyth (8) Cynghorydd yn Ward Llanfihangel Ystrad a tri (3) yn Ward Dihewyd. Y pentrefi yn Ward LlanfihangelYstrad yw Felin Fach, Ystrad Aeron, Cribyn, Abermeurig, Temple Bar, Ffynnon Oer a rhan o Bont Creuddyn, ac yn Ward Dihewyd, pentref Dihewyd a Throed-y-rhiw.

Cynhelir cyfarfodydd ar yr ail nos fawrth o bob mîs, arwahan i fis Awst, a fel bydd y galw ym mîs Ionawr, yn Neuadd Goffa Felin Fach, Ysgol Cribyn a Neuadd Bentref Dihewyd yn eu tro y cynheir y cyfarfodydd a hynny am 7.30yh.

Un o ddyledswyddau y cyngor yw gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio cyn bod y Cyngor Sir yn gnwneud penderfyniad ar y cais. Yn ogystal mae’r cyngor yn gyswllt pwysig rhwng y Gymuned ac asiantaethau a chyrff llywodraethol eraill.

Mae’r Cyngor yn cydweithio gyda gyda’r cymunedau yn yr ardal a chyfrannu’n ariannol tuag at achosion teilwng. Mae ganddo hefyd yn gyfrifoldebay dros Seddau Cyhoeddus, Goleuadau Troedffordd a Chysgodfannau Bysys.

The Council operates fully through the medium of Welsh. Translation requests on any points of interest can be made by contacting: clerc@llanfihangelystradcc.org.uk