Llongyfarchiadau I Glwb CffI Felinfach

Mae yna gryn ddathlu yn Nyffryn Aeron yng Ngheredigion wedi i Glwb Ffermwyr Ifanc Felin-fach ennill cystadleuaeth cyfrwng Cymraeg hanner awr adlonaint Cymru yn Y Drenewydd dros y penwythnos.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Theatr Hafren, Y Drenewydd ar yr 8fed a 9fed o fis Mawrth.

Dywedodd Alaw Fflur Jones wrth Cymru Fyw: “Dyma’r tro cyntaf i’r clwb gystadlu ar lefel Cymru wedi i ni ennill ar lefel Ceredigion wythnos ddiwethaf.

“Roedd ein hanner awr yn sôn am drip Ysgol Sul go helbulus – a Mr Bean yn cael sylw mewn un olygfa.”

Alaw hefyd, sy’n ddisgybl Blwyddyn 13 yn Ysgol Gyfun Aberaeron, a enillodd y gystadleuaeth i fod yn aelod iau CFfI Cymru.

“Fi jyst ffili credu’r cyfan,” meddai, ac mae’n annog unrhyw un i fod yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifainc er mwyn cael mwynhau amrywiol brofiadau.

Clwb Bro Ddyfi, Maldwyn oedd yn ail yn y gystadleuaeth hanner awr adloniant ac roedd Clwb Pen-y-bont o Sir Gaerfyrddin yn drydydd.