Ambiwlans Awyr

Yn ystod 2022-23 bu’r Cyngor Cymuned yn cefnogi gwaith yr Ambiwlans Awyr trwy gyfrannu tuag at goffrau ei ymgyrch i godi arian at waith Ambiwlans Awyr y Plant (£150) a’r Ambiwlans Awyr (£300). Fel Cyngor Cymuned gwledig mae’r Cynghorwyr yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y gwasanaeth hwn i’r ardal.

Yn y llun mae Cadeirydd y Cyngor, y Cyng. Lyn Williams yn cyflwyno siec i gynrychiolydd yr Ambiwlans Awyr yn ystod dathliadau Ffair Sant Silin yng Nghribyn ar Chwefror 11eg.