Gyda thristwch, ar y 19eg o Chwefror daeth y newyddion bod y Cyng. Johnny Davies wedi ein gadael. Yn briodol iawn, cynhaliwyd ein cyfarfod mis Mawrth yn Neuadd Dihewyd lle cafwyd munud o dawelwch er cof amdano.
Yn ôl cofnodion Cyngor Bro Dihewyd, croesawyd Johnny i’w gyfarfod cyntaf yn gynghorydd ar y 12fed o Fehefin, 1979 a hynny gan y Cadeirydd ar y pryd, y Cyng. D.L. Evans.
Yn 1987 ffurfiwyd Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad ac etholwyd Johnny yn Is-Gadeirydd gan gymryd sedd y Cadeirydd y flwyddyn ganlynol.
Roedd ei adnabyddiaeth o gymdogaeth Dihewyd a’i phobol heb ei hail ac yn elfen amhrisiadwy yn ei rôl yn Gynghorydd wrth wasanaethu’r gymuned oedd mor bwysig iddo.
Bu Johnny’n aelod ffyddlon o’r Cyngor hyd at y diwedd ac yn bresennol yn ein cyfarfod yr wythnos cyn ei farw.
Gwelwn ei eisiau’n fawr yn ein cyfarfodydd a’r “wên ddireidus o amgylch y bwrdd” fel a nodwyd gan un o’i gyd-aelodau. Gwelwn eisiau hefyd ei gyfraniadau a’r stôr o wybodaeth am Dihewyd a Dyffryn Aeron yn ehangach.
Estynwn ein cydymdeimlad â Nesta, Alun ac Ann a’u teuluoedd.