Enillwyr Gwobr y Gymuned 2025 CPD Felinfach

Yn y llun:  Edryd Evans, Cadeirydd CPD Felinfach, Y Cyng. Haf Hughes, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad, Eilir Evans, cyn-Gadeirydd CPD Felinfach.

Yn flynyddol bellach mae Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad yn cyflwyno plac Gwobr y Gymuned i unigolyn neu grŵp sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.

Eleni, cyflwynwyd y plac i drefnwyr Clwb Pêl Droed Felinfach a’i gyflwyno i gyn-Gadeirydd y Clwb, Eilir Evans a’r Cadeirydd presennol, Edryd Evans yng nghyfarfod y Cyngor Cymuned ar y 9fed o Ragfyr.

Ers sefydlu Clwb Pêl Droed Felinfach yn 1980 mae’r Clwb wedi llwyddo i ddenu cannoedd o chwaraewyr lleol – yn blant ac yn oedolion – ynghyd â chriw o ddilynwyr ffyddlon.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r Clwb wedi bod yn mynd o nerth-i-nerth o dan arweiniad pwyllgor gweithgar iawn. 

Un o lwyddiannau mawr y Clwb wrth gwrs yw’r Ŵyl Bêl Droed Ieuenctid sy’n cael ei chynnal adeg y Pasg yn flynyddol.   Eleni, cynhaliwyd yr ŵyl am y pedwerydd-tro-ar-ddeg gan groesawu 100 o dimau a 650 o chwaraewyr.  Mae’n cael ei ddisgrifio fel un o’r gwyliau pêl-droed mwyaf poblogaidd yn ngorllewin Cymru a sdim syndod – mae’r cyfan yn cael ei redeg fel wats – a ma’r tywydd wedi helpu dros y blynyddoedd hefyd!

Eleni, mae wedi bod yn dipyn o flwyddyn i’r Clwb – wedi sicrhau grant i wella’r cae, ymddangos yng Nghwpan Cymru am y tro cynta’ a chodi Tlws y Gynghrair am y tro cynta’ yn ei hanes.

Wrth gyflywno’r Plac i Eilir ac Edryd, meddai’r Cadeirydd Haf Hughes “Ar ran Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad, hoffwn ddiolch i chi nid yn unig am yr holl waith caled chi’n cyflawni i roi Felinfach ar y map ond hefyd am y cyfle chi’n rhoi i’r holl blant, pobl ifanc, a’r rhai bach yn hŷn, fedru chwarae ac enjoio pêl droed ar stepen eu drws, a thrwy hynny cryfau’r gymdeithas ehangach. Dymunwn bob lwc i’r Clwb i’r dyfodol”.

Wrth dderbyn y Plac, diolchodd Edryd am y Wobr gan nodi pa mor falch oedd e i dderbyn yr anrhydedd ar ran y Clwb. Ychwanegodd Eilir yntau ei falchder a soniodd am bwysigrwydd y Clwb yn cael pobl o bob oed mas yn yr awyr iach i gadw’n heini trwy chwarae pêl droed.

Y newyddion da yw – tra fod Cae Felinfach yn dod yn barod – mi fydd yr Ŵyl Ieuenctid yn cael ei chynnal yn Aberaeron ym mis Ebrill.  Y gobaith yw gweld y gic gynta’ ar y cae ar ei newydd wedd cyn diwedd yr haf.