Gwobr y Gymuned 2021

Llongyfarchiadau i Eluned Davies, Bryniau, Dihewyd ar ennill gwobr arobryn Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad am gyfraniad oes i’r ardal.

Crëwyd y wobr newydd hon i gydnabod cyfraniad unigolion neu grwpiau o fewn yr etholaeth i’w cymunedau neu sydd wedi ennill clod yn eu maes boed yn y byd chwaraeon, eu gwaith bob dydd neu waith wirfoddol.

Dewiswyd Eluned nid yn unig am y blynyddoedd maith o wasanaeth i’w chymdogaeth ond hefyd am yr amrywiaeth o weithgareddau y bu ynghlwm â nhw dros y blynyddoedd, ac yn dal i wneud, gan gynnwys Capel Bethlehem, yr Ysgol Gynradd, Neuadd y Pentre, yr Eisteddfod leol a Sefydliad y Merched.  Yn grefftwraig ddawnus mae hefyd yn rhannu’r ddawn trwy gynnal dosbarthiadau gwnȉo a chrefft i eraill gael dysgu a mwynhau.

Braf iawn oedd cael cyflwyno’r darian arbennig hon i Eluned yng nghyfarfod mis Rhagfyr y Cyngor Cymuned a hynny yn briodol iawn yn Neuadd Dihewyd.