LLUNIO LLE CEREDIGION

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi comisynu prosiect o’r enw Creu Lleoedd. Mae Felinfach ac Ystrad Aeron wedi eu dewis i fod yn rhan o’r prosiect hwn

Cynhelir digwyddiad galw-heibio yn Neuadd Goffa Felinfach ar yr 11eg o Dachwedd rhwng 12.00yp a 7.00yh.gyda’r bwriad o:

  • Ddeall beth sy’n wych am eich pentref?
  • Ddeall beth sydd angen a beth gellid ei wella?
  • Yr hyn mae’r pentref yn ei olygu i chi? 
  • Ysgol wâg Felinfach – gall y gymuned gael budd ohoni i’r dyfodol?

Bydd yr artist Meinir Mathias a’r bardd Hattie Morrison yn bresennol yn creu – trwy lun a gair – eich dyheadau am eich cymuned.

Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur ac edrychwn ymlaen at eich gweld am baned a sgwrs.