Newyddion Coronovirus

Diweddariad Llywodraeth Cymru

  • Cyfarfu arweinwyr ar gyfer eu cyfarfod wythnosol ar ddydd Gwener 6 Tachwedd i rannu gwybodaeth a diweddariadau, yn enwedig o ran y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau, dyfodol buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, ac edrych ymlaen i Adolygiad Gwariant y DU sydd i fod i gymryd lle yn hwyr ym mis Tachwedd.
  • Ar ddydd Llun 2 Tachwedd, bu Is-Bwyllgor Cyllid CLlLC yn cwrdd gyda’r Gweinidog Cyllid a Trefnydd. Mynegwyd diolch gan gynrychiolwyr llywodraeth leol am y gefnogaeth ariannol sydd wedi’i ddefbyn hyd yma gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd yn amlinellu’r pwysedd £280m disgwyliedig ar gyllidebau awdurdodau lleol.
  • Wrth nodi Wythnos Hinsawdd Cymru mewn digwyddiad rhithiol ar ddydd Gwener 6 Tachwedd, bu Arweinydd CLlLC y Cynghorydd Andrew Morgan yn trafod y gwaith allweddol sy’n cael ei ymgymeryd gan awdurdodau lleol i gyrraedd y targed sero-net o ran allyrriadau carbon ac i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Bydd ymagwedd ‘Tîm Cymru’ yn allweddol i sicrhau bod yr ymdrechion yn llwyddo.
  • Cyfarfu Llefarydd a Dirprwy Llefarydd Addysg CLlLC gyda’r Gweinidog Addysg, wrth ddisgwyl cyhoeddiad wythnos nesaf am arholiadau a chymwysterau yn 2021. Mae’r Gweinidog yn ceisio barn ar hyn o bryd ar effeithiolrwydd y dull dysgu cymysg sydd wedi cael ei fabwysiadu gan ysgolion o ganlyniad i’r argyfwng.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

  • Rhoddodd Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sesiwn friffio i Lywodraeth Cymru heddiw. Rhannodd sleidiau a ddangosodd y niferoedd diweddaraf yng Nghymru o’r rhai sydd wedi cael prawf positif a marwolaethau yn ymwneud â’r coronafeirws. Amlygwyd hefyd yr achosion 7 diwrnod ar gyfer y rhai 25 oed ac iau a’r rhai 60 oed a hŷn a gafodd brawf positif ym mhob awdurdod lleol. Yma  
  • Ddoe, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad cabinet yn rhoi diweddariad ar sut mae Cymru’n bwriadu elwa o ddatblygiad technolegau newydd mewn profion am Covid-19 ac a allai ei gwneud yn bosibl i brofi ar raddfa, amledd a chyflymder llawer mwy.
  • Ddoe cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw hawdd ei ddarllen i bobl sy’n gwarchod sydd wedi’i diffinio fel rhai hynod fregus.

Cyllid

  • Mae Awdurdodau Lleol wedi cychwyn talu grantiau i fusnesau bach yn ystod y cyfnod clo byr. Mae bron i 10,000 o grantiau gyda cyfanswm o £28m wedi cael eu talu i fusnesau sy’n cyflogi 14,000 o bobl.
  • Ddoe fe groesawodd y Gweinidog Cyllid estyniad i’r cynllun ffyrlo tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf ond rhybuddiodd fod tro pedol munud olaf llywodraeth y DU eisoes wedi achosi niwed anadferadwy i fywydau pobl.    Datganiad i’r wasg

Addysg, Plant a Phobl Ifanc

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ymchwil sy’n darparu cyngor ar ddysgu ac addysgu y gallai ysgolion a lleoliadau fod eisiau ei ddarparu o dymor yr hydref.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ar drefniadau ar gyfer diogelu plant.

Yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd

Wedi’r cyfnod atal byr

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nodyn atgoffa y bydd teithio rhwng Cymru a Lloegr yn parhau i gael ei gyfyngu wrth i gyfnod atal byr Cymru ddod i ben ac i gyfyngiadau symud mis o hyd Lloegr ddechrau.

Tai

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £10 miliwn arall ar gyfer rhaglen newydd a fydd yn trawsnewid tai cymdeithasol ledled Cymru, yn rhoi hwb i’r economi ac yn agor y drws i ddiwydiant newydd yng Nghymru.  Datganiad ysgrifenedig  a  Datganiad i’r wasg

Deddfwriaeth Coronafeirws yng Nghymru

  • Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 sy’n rhoi cyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill i warchod iechyd y cyhoedd. Maent yn disodli Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 sydd bellach yn tynnu Denmarc oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau eithriedig.

Ym mhle allwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf?

  • Mae gwybodaeth coronafeirws ar gyfer Cynghorau ar gael yma ar wefan CLlLC.
  • Mae CLlLC yn casglu arfer dda cynghorau yn ystod pandemig y coronafeirws yma.
  • Mae Iechyd Cyhoeddus C ymru yn cyhoeddi dangosfwrdd dyddiol o ddata am achosion coronafeirws ledled Cymru, fesul bwrdd iechyd ac ardal awdurdod lleol.
  • Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn darparu diweddariad dyddiol sy’n canolbwyntio ar wybodaeth a diweddariadau iechyd cyhoeddus allweddol.
  • Mae gwybodaeth am coronafeirws ar gael yma ar wefan Llywodraeth Cymru.
  • Mae’r ddeddfwriaeth a basiwyd yng Nghymru mewn perthynas â’r pandemig coronafeirws ar gael yma yma.
  • Mae gwybodaeth coronafeirws Llywodraeth y DU ar gyfer unigolion a busnesau yng Nghymru ar gael yma.