YSGOL CRIBYN YN GARTREF I ŴYL NEWYDD

Ffos Davies. Prifathro Cribyn yn nauddegau’r ganrif ddiwethaf. Arweinydd côr y pentre. Codwr canu Troedyrhiw ac athro di-dâl i weithwyr fferm yr ardal o’dd â golwg ar fynd i’r coleg. Ac ar ben hynny i gyd, achubwr rai o ganeuon gwerin enwoca’r genedl! Heb os, mi o’dd e’n dipyn o foi! A dydd Sadwrn, 26 Hydref, sefydlwyd gŵyl newydd yng Nghribyn i gofio amdano. ‘A’r ffordd ore o gofio amdano yw canu’r caneuon yn uchel a gyda arddeliad’ medd Euros Lewis, un o’r trefnwyr.

‘Mi o’dd y gymwynas wna’th e â’r Gymraeg yn aruthrol’ medd Euros. ‘Sylweddolodd yn fuan rôl symud i Gribyn fod y caneuon yr hen bobol yn drysor – trysor o’dd wedi eu colli o gymaint o rannau eraill o Gymru. Bwrodd ati i’w ‘recordo’ â help pensil, copy-books yr ysgol, nodiant So-Ffa a’i glust. Meddyliwch: oni bai amdano galle ‘Twll Bach y Clo’  a’r  ‘March Glas’  a gymaint o berlau eraill fod wedi’u diflannu i ebargofiant!’

Roedd dau hanner i’r ŵyl. Bnawn dydd Sadwrn (2 hyd 4 o’r gloch)cynhaliwyd sesiwn straeon a gemau lleol ar gyfer plant Meithrin a Chynradd gan Linda Tomos, Hilary McConnell a Geoff Davies gyda’r canwr gwerin Owen Shiers yn eu harwain i gyd-ganu’r hen ganeuon. Cafwyd gwefr arbennig yn ystod y sesiwn wrth i Mari Dixon a John Davies, wyron Ffos Davies, gyrraedd wedi teitihio o’r De a rhannu straeon teuluol am eu tad-cu a phawb oedd yn bresennol.

Gyda’r nos mi oedd neuadd Ysgol Cribyn dan ei sang ar gyfer Noson Lawen fawr yng nghwmni rhagor o ddisgynynddion Ffos Davies ynghyd a’r artistiaid: Cleif Harpwood,  Ifan Gruffydd, Dafydd Jones, Ceri Rhys Matthews, Mali Lewis, Robyn Tomos, Carys Hâf, Julie Murphy ac Iwan Coedfardre. Medd Cleif wrth ymadael ‘Mae’n amlwg fod Ffos Davies yn dipyn o foi ac mi oedd heno, heb os, yn dipyn o noson – noson lawen go iawn!’

FFOTOS

1    Iwan Coedfardre, Talgarreg yn codi’r gynulleidfa i gyd-ganu un hen ffefryn ar ol y llall.

2    Ceri Rhys Matthews, Pencader, yn gwefreiddio pawb a swn hudolus yr hen bibau Cymreig.

3    Cleif Harpwood a aeth yn ol at ei wreiddiau wrth ganu rhai o’r hen alawon a gasglwyd gan Ffos Davies.

4    Un forded o Noson-Lawenwyr yn joio mas-draw!

5    Cafodd Mari a John (canol), dau o wyron John Ffos Davies, groeso mawr wrth iddynt ymuno a sesiwn prynhawn y plant.

6    Y canwr gwerin Owen Shiers yn arwain ‘Twll Bach y Clo’ gyda’r plant.

Disgynddion Ffos Davies yn yr Wyl gyntaf a gynhaliwyd ar 26 Hydref, 2024

Iwan Coedfadre yn codi hwyl yn y Noson Lawen.