Diffribiliwr Temple Bar

Yn ddiweddar, gosodwyd diffribiliwr newydd  ar adeilad Tafarn Fronfelen, Temple Bar

Prynwyd y diffribiliwr gyda chyfraniad gan Gyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad, grant gan Calon Hearts a chyfraniadau er cof am y diweddar Mr. Ken Davies, Felinfach.   Ynghyd ȃ Felinfach, Cribyn a Dihewyd dyma’r pedwerydd diffribiliwr yn yr etholaeth.

Y Cyng. Gerwyn Owen yw Cadeirydd y Cyngor Cymuned “Ry’ ni’n falch iawn bod diffibriliwr ym mhob ardal o fewn etholaeth Llanfihangel Ystrad erbyn hyn. Ry’ ni’n ddiolchgar iawn hefyd i Calon Hearts a Mrs Joyce Davies a’r teulu am eu cefnogaeth.

Dywedodd Sharon Owen o Calon Hearts “Mae’n wych bod Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad wedi adnabod pwysigrwydd yr angen am ddiffibriliwr arall yn yr etholaeth.  Po fwyaf o gymunedau sy’n dod o hyd i gartref i un o’r peiriannau gwerthfawr hyn y gorau fydd y siawns o achub bywydau.”

Yn y llun:  Cyng. Gerwyn Owen (Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad a’r Cyng. Lynford Thomas (Cyngor Sir Ceredigion).

Mae’r Cyngor Cymuned yn mynd i drefnu sesiynau hyfforddi yn rhad ac am ddim dan ofal Mr. Michael Morgans – dyddiadau i’w cadarnhau.  Os oes ganddoch ddiddordeb mewn ymuno ȃ ni ar gyfer un o’r sesiynau cysylltwch ȃ clerc@llanfihangelystradcc.org.uk