Yn ddiweddar, gosodwyd diffribiliwr newydd ar adeilad Tafarn Fronfelen, Temple Bar
Prynwyd y diffribiliwr gyda chyfraniad gan Gyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad, grant gan Calon Hearts a chyfraniadau er cof am y diweddar Mr. Ken Davies, Felinfach. Ynghyd ȃ Felinfach, Cribyn a Dihewyd dyma’r pedwerydd diffribiliwr yn yr etholaeth.
Y Cyng. Gerwyn Owen yw Cadeirydd y Cyngor Cymuned “Ry’ ni’n falch iawn bod diffibriliwr ym mhob ardal o fewn etholaeth Llanfihangel Ystrad erbyn hyn. Ry’ ni’n ddiolchgar iawn hefyd i Calon Hearts a Mrs Joyce Davies a’r teulu am eu cefnogaeth.
Dywedodd Sharon Owen o Calon Hearts “Mae’n wych bod Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad wedi adnabod pwysigrwydd yr angen am ddiffibriliwr arall yn yr etholaeth. Po fwyaf o gymunedau sy’n dod o hyd i gartref i un o’r peiriannau gwerthfawr hyn y gorau fydd y siawns o achub bywydau.”
Yn y llun: Cyng. Gerwyn Owen (Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad a’r Cyng. Lynford Thomas (Cyngor Sir Ceredigion).
Mae’r Cyngor Cymuned yn mynd i drefnu sesiynau hyfforddi yn rhad ac am ddim dan ofal Mr. Michael Morgans – dyddiadau i’w cadarnhau. Os oes ganddoch ddiddordeb mewn ymuno ȃ ni ar gyfer un o’r sesiynau cysylltwch ȃ clerc@llanfihangelystradcc.org.uk