Yn ddiweddar, trefnodd y Cyngor Cymuned ymweliadau gan Carol Williams, Pennaeth Prosiectau gydag Age Cymru i Fore Coffi yn Ysgol Cribyn a chyfarfod y Gymdeithas yn Dihewyd.
Cafwyd sesiynau da iawn a rhannwyd gwybodaeth gwerthfawr gan Carol parthed nifer o faterion o bwys a’r gobaith yng Nghribyn yw dechrau grwpiau crefft a gwella sgiliau digidol dan faner Age Cymru.
O ran Dihewyd, dangoswyd tipyn o ddiddordeb yn y gwasanaeth Bws Gymunedol. Mae’rCyngor eisoes wedi trefnu ymweliad i Dihewyd gan gynrychiolydd o Dolen Teifi ar y 23ain o Fai i roi amlinelliad o’r gwasanaeth.
Hoffai’r Cyngor ddiolch i Carol Williams am ei phresenoldeb yn y digwyddiadau ac am y gwaith dilynol o drefnu’r gweithgareddau a fydd o fudd mawr i les ein trigolion.
Recently, the Community Council organised visits to Cribyn and Dihewyd by Carol Williams, Head of Project Delivery with Age Cymru. There were very good sessions and valuable information was shared by Carol regarding a number of important issues and the hope in Cribyn is to start craft groups and improve digital skills under the banner of Age Cymru. As for Dihewd, a lot of interest was shown in the Community Bus service. The Council has already arranged a visit to Dihewd by a representative from Dolen Teifi on the 23rd of May to give an outline of the service. The Council would like to thank Carol Williams for her presence at the events and for the subsequent work of organizing the activities which will greatly benefit the well-being of our residents.
Carol Williams yng Nghribyn
