CYNGOR CYMUNED LLANFIHANGEL YSTRAD
Yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad trosglwyddwyd y Gadeiryddiaeth am 2026-27 i’r Cyng. Lynford Thomas gan y Cyng. Haf Hughes.
Diolchwyd i Haf am ei gwaith dros y flwyddyn ddiwetha a dymunwyd yn dda i Lynford wrth ddechrau ar ei dymor e yn y Gadair.
