Holiadur Diwylliant Cyngor Sir Ceredigion

Ceredigion Culture Questionnair

Prynhawn da,

Rwy’n gweithio ar brosiect newydd i ddeall sut mae trigolion Ceredigion yn diffinio ac yn profi diwylliant yn eu bywydau bob dydd. Nod y prosiect yw casglu barn gan unigolion, sefydliadau, grwpiau â chynghorau lleol er mwyn nodi bylchau ac anghenion, a datblygu cynllun gweithredu yn seiliedig ar y canfyddiadau hynny.

Y bwriad yw dosbarthu holiadur fel ffordd hygyrch o gasglu barn. Bydd yr holiadur ar gael ar Wefan y Cyngor Sir a hefyd fydd copïau papur ar gael yn llyfrgelloedd Sir Ceredigion.

Byddem yn ddiolchgar i dderbyn eich cymorth i annog cymaint a phosib i ymateb.

A fyddai modd i chi felly:

1. Rhannu gwybodaeth am yr holiadur ac annog pobl i gymryd rhan – Os byddwch yn derbyn copïau papur o’r holiadur wedi’u cwblhau, byddwn yn ddiolchgar iawn os gallech eu dychwelyd i’ch llyfrgell lleol neu trwy’r post cyn y 12fed o Ionawr i : 

Elin Mai Williams

Swyddog Datblygu Diwylliant,

Cyngor Sir Ceredigion, 

Penmorfa, 

Aberaeron,

Ceredigion, 

SR46 0PA

2. Rhoi gwybod i mi am unrhyw ddigwyddiadau yn eich ardal chi y gallwn ni ei fynychu er mwyn dosbarthu’r holiadur.

3. Ystyried fy ngwahodd i drafod y prosiect gyda chi fel grŵp.

Tybed a fyddech chi mor garedig a rhoi gwybod i mi trwy ymateb i’r e-bost hwn pa rhai o’r uchod fyddai modd i chi eu gwneud.

Ar ddiwedd y prosiect, byddaf yn rhannu’r canlyniadau gyda chi ac yn gobeithio trafod ffyrdd o gydweithio ymhellach.

Dyma’r ddolen ar gyfer gweld / llenwi’r holiadur 

Diolch yn fawr am eich amser a’ch cefnogaeth,

Elin Mai Williams

Swyddog Datblygu (Diwylliant)