Newyddion

Cadw’n iach y gaeaf hwn
Cyhoeddiad newydd oddi Llywodraeth Cymru gyda ‘Awgrymiadau i’ch helpu i fentro allan unwaith eto’ Ar gael yma: Yn Barod i Fynd – Awgrymiadau i’ch helpu i fentro allan unwaith eto (nhs.wales)
Neges oddi Llywodraeth Cymru: Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf
Fel rhan o becyn cymorth ehangach o dros £50m i fynd i’r afael â phwysau ar gostau byw ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau dros £38 miliwn drwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf. O 13 Rhagfyr 2021 tan 18 Chwefror 2022, mae’n bosibl y bydd modd i bobl gymwys yng Nghymru hawlio taliad untro o £100 gan eu cyngor lleol er mwyn rhoi cymorth tuag at dalu eu biliau tanwydd gaeaf. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma: Cynllun cymorth tanwydd gaeaf | LLYW.CYMRU Gall unrhyw un y mae angen cymorth ariannol arno i dalu am danwydd oddi ar y grid (megis olew, nwy petrolewm hylifedig neu glo) ystyried gwneud cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol am gymorth.
Y Gronfa Cymorth Dewisol
Os byddwch yn ei chael hi’n anodd yn ariannol, efallai y byddwch yn gymwys am gymorth drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol. Gallwch wneud cais i’r Gronfa hon drwy’r wefan https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf/sut-i-wneud-cais neu drwy radffôn ar 0800 859 5924
Cynllun Cartrefi Clyd
Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd yn rhad ac am ddim ac, os ydych yn gymwys, becyn o welliannau arbed ynni yn rhad ac am ddim i’ch cartref, fel boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddiad. Gall hyn leihau eich biliau ynni a bod o fudd i’ch iechyd a’ch llesiant. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch radffôn 0808 808 2244 neu ewch i https://nyth.llyw.cymru/cy/ Advicelink Cymru I gael cyngor ar ddyled ac arian ynghyd â gwybodaeth bellach am unrhyw gymorth ariannol arall y gall fod hawl gennych i’w gael, beth am gysylltu ag Advicelink Cymru? Ffoniwch Radffôn 0800 702 2020 (9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener), neu, i gael gwybodaeth a/neu siarad ag un o’r cynghorwyr ar-lein, cliciwch yma