SUL Y COFIO

Nos Sadwrn y 13eg o Dachwedd cyflwynwyd torch pabi coch a thorch pabi gwyn yn y gwasanaeth cofio yn Neuadd Felinfach. gan Gadeirydd Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad, Y Cyng. Gerwyn Owen ac eto ar fore Sul y 14eg o Dachwedd wrth y gofgolofn yng Nghribyn.

Roedd y pabi coch yn arwydd o gofio am y rhai a gollwyd o’r lluoedd mewn rhyfeloedd – yn enwedig y rhai a gollwyd o’r cymdogaethau lleol. Roedd y pabi gwyn yn arwydd o gofio am holl ddioddefwyr rhyfel ar draws y byd a’r dymuniad am heddwch rhyngwladol.