Archwiliad 2019-2020

Newyddion Diweddaraf ac Hysbysiad o ddyddiad penodi ar gyfer hawliau etholwyr.

Ardystio a chymeradwyo cyfrifon blynyddol ar gyfer 2019-20

Mae rheoliad 15 (1) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog ariannol cyfrifol Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad lofnodi a dyddio’r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod  ei fod yn cyflwyno’n deg sefyllfa ariannol Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad ar ddiwedd y flwyddyn ac incwm a gwariant y Cyngor am y flwyddyn. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30 Mehefin 2020

Roedd y swyddog ariannol cyfrifol wedi llofnodi a thystio’r cyfrifon ar 26ain Mai, 2020.

Mae rheoliad 15 (2) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, yn dilyn yr ardystiad gan y swyddog ariannol cyfrifol y cyfeirir ato uchod, fod yn rhaid i’r Cyngor gymeradwyo  ‘r cyfrifon. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30 Mehefin 2020.

Oherwydd achos y COVIC-19, nid yw Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad wedi cwrdd i gymeradwyo’r cyfrifon.