Rhybudd Sgam / Scam Warning

Rhowch y ffôn i lawr!

Mae troseddwyr sy’n esgus eu bod yn galw o Microsoft, Norton a BT yn ceisio twyllo preswylwyr Dyfed-Powys.

Os fyddwch chi’n derbyn galwad yn dweud bod eich cyfrifiadur wedi’i heintio neu fod ganddo wallau difrifol, neu mae angen diweddaru eich meddalwedd wrthfirws, rhowch y ffôn i lawr. Ni ddylai gweithiwr Microsoft, Norton neu BT fyth eich ffonio i ddweud hyn wrthych.

Troseddwyr yw’r galwyr hyn a fydd yn ceisio ennill eich ffydd drwy wneud ichi feddwl bod problem â’ch cyfrifiadur. Os fyddwch chi’n rhoi mynediad iddynt i’ch cyfrifiadur, yr ydych mewn perygl o gael arian wedi ei ddwyn o’ch cyfrif banc a chael eich cyfrifiadur wedi’i gloi.

  • Peidiwch sgwrsio â nhw.
  • Rhowch y ffôn i lawr.
  • Rhwystrwch y rhif ffôn a ddefnyddiwyd i’ch galw.
  • Dywedwch wrth eich ffrindiau a’ch cymdogion am y twyll hwn.

JUST HANG UP!

Criminals pretending to be from Microsoft, Norton and BT are trying to scam Dyfed-Powys residents.

If you receive a call saying your computer is infected or has serious errors, or your anti-virus needs updating, just hang up the phone. No genuine employee from Microsoft, Norton Anti-Virus or BT should ever phone you to tell you this.

These callers are criminals who will try gain your trust by making you think your computer has a problem. If you allow them access to your computer, you are at risk of having money taken from your bank account and your computer locked.

•             Don’t engage in conversation with them.

•             Put the phone down.

•             Block the number they called from.

•             Tell your friends and neighbours about this scam.